“As ambassador for Tir Natur, I am hugely excited by their efforts to purchase land and showcase the benefits of rewilding, not only to wildlife and the physical environment, but to farming, Welsh communities and culture. Nature needs this.”
Iolo Williams - Tir Natur Ambassador
Welcome to Tir Natur and diolch for visiting our Crowdfunding page...
(Sgroliwch ławr am y Gymraeg)
*If you want to become a Community Founding member please visit our website*
Tir Natur has identified a huge opportunity to establish the largest rewilding site in Cymru/Wales. It would also be the biggest ecosystem restoration project in the country at over 1000 acres. Ancient breeds of grazing animals will roam and shape the landscape, allowing wildlife to flourish alongside thriving communities, while informing and inspiring further nature-led restoration at a time of unprecedented biodiversity loss. More than anything, it would offer hope for nature - gobaith i natur.
But we cannot do this alone - to unlock this transformational opportunity and make this vision a reality, we need your support - mae angen eich cefnogaeth arnom.
Funds raised will contribute to the deposit and associated costs for the land. Your donation will help us reach our initial milestone of £370,000. Please:
- Donate what you can. Every £1 you give, up to a total of £20,000, will be doubled thanks to two generous Community Founding Members who want to support us on this journey with a matched fund. A certain amount of donations will be trebled, as Aviva are providing some additional matched funding on a first come, first serve basis up to £250 per person. The sooner you make your donation, the more likely we are to receive this additional support.
- Share this page with your family and friends.
- Ask your employer to support us.
- Become a corporate partner by getting in touch by emailing [email protected]
- Become a Community Founding Member (with a donation of £5000 or £10,000+) by emailing [email protected].
- Become a volunteer by filling out this form.
*Aviva match-funding will be added to our Crowdfunding total. Our Community Founding Members match fund will be applied once the appeal ends.
Why does Wales need this project?
Wales is one of the most nature depleted countries in the world. Despite ambitious governmental targets, the response is still far from what is needed to deal with the scale and pace of nature’s decline with one in six species now at risk of extinction from Wales. On top of loss of habitat, unpredictable and severe weather events caused by the climate crisis pose an additional threat to our wildlife, while making life harder for our agricultural communities, who play a vital role in sustaining Welsh language, culture and heritage, and whose livelihoods are already being affected by rising input costs and marketplace volatility. Rewilding methods offers solutions to both these challenges...
"Nature is deeply embedded in our cultural history in Wales. Tir Natur are bringing it back" Carwyn Graves, author of Tir: The Story of the Welsh Landscape
Rewilding offers hope
In a nutshell, rewilding is the restoration of nature’s remarkable web of life, including habitats, natural processes and, where appropriate, missing species, until it can take care of itself – and us – again. However there are no large-scale examples of such projects in Wales. There is a lack of opportunity to demonstrate how these methods can address the overlapping biodiversity and climate crises, to inspire, educate and showcase the cascading benefits to people, economies, culture and communities, from reducing flooding and soaking up carbon dioxide, to improved health and wellbeing.
The Opportunity:
Our flagship site’s potential for large-scale rewilding is unmatched. It has many natural features including, rivers, peat bogs and scarce ancient trees (many of which are in poor condition). The land will bridge existing isolated nature reserves providing wildlife corridors fundamental to restoring and preserving biodiversity. Rewilding could improve the health of multiple rivers which run through the land, while mitigating the flooding increasingly suffered by downstream communities and land owners.
"When we visited this land we felt an immediate sense of opportunity and hope. An opportunity to do something new, something different. This would be unlike anything that Wales has seen before. Lle i enaid gael llonydd.” The Tir Natur Team
Using Grazers as Ecosystem Architects
At the heart of rewilding is our wild grazing system, with natural densities of ancient, cultural breeds of grazers such as Welsh Black or White Park cattle and Carneddau Ponies acting as ecological proxies for their wild ancestors, the Auroch and Tarpan.
Iron Age pigs will assume the role of Wild Boar and capture the spirit of the Mabinogi’s legendary Twrch Trwyth in the Welsh hills. Through their foraging behaviour, they will reduce the vigour of bracken, lightly till the earth and expose dormant seeds to the light, kickstarting natural regeneration.
These animals will roam freely across the landscape, spreading seeds through their gut, hooves and fur, increasing biodiversity as they go. Collectively, these 'ecosystem architects' will drive the recovery of complex and dynamic habitats that shift and change over time. Nature leading the way, natur yn arwain y ffordd.
From their grazing and browsing, to their wallowing, dunging and trampling, their disturbance in the landscape creates the myriad niches and microhabitats that other species need to thrive. As shown by the success of rewilding projects such as Knepp in West Sussex, this would be both an ecological and cost effective way of restoring nature, with no need for large overheads or thousands of volunteer hours. It is low cost/high impact and is a model which can be scaled up to respond to the crisis that nature is facing.
Farming
This also lays a platform for animal husbandry and, therefore, we will demonstrate the key role that farming can play in restoring ecosystems. In nature, herbivore numbers would have been kept in check by large predators, but in their absence, the farmer/stock manager maintains a natural balance to prevent overgrazing.
We have selected a site where the seller will retain their farm (including improved grassland, rhos, mynydd) with Tir Natur working on the marginal land. By placing this project in the uplands we also aim for our work to positively impact our neighbours. As we restore peat (see below) it will act as a sponge to reduce downstream flooding of communities and farmland at a time of increasingly unpredictable weather.
Read our blog on Rewilding & Farming: The Emergence of an Eco-Farm-System:
https://www.rwtwales.org/blog/tir-natur/rewilding-farming-emergence-eco-farm-system
Reducing the impacts of Climate Change
As well as breathing life back into the landscape, the ripple effect of having grazers on the land will include the rewetting of 250 acres of dry and decaying peat, currently releasing carbon dioxide into the atmosphere. The restored peat will absorb carbon dioxide from the atmosphere, and alongside native trees and scrub, will act as a sponge soaking up water that otherwise would run into the rivers. This will reduce the risk of flooding downstream and ensure the land is resilient to drought. Working with our neighbours, we will look to reintroduce Beavers to the river systems whose dams will slow the flow of the rivers further, keeping houses and farmland dry.
Community and Safeguarding Welsh Culture
Local tradespeople would be employed in the creation and delivery of the project, and we will work with communities to ensure that the land’s culture and linguistic heritage - y Gymraeg - are celebrated. With public footpaths maintained and visitors encouraged, people will be reconnected to both their roots and to wild nature, giving a sense of ownership and belonging, and offering opportunities for health and wellbeing.
Inspiring Action
With natural grazing at the heart of the project, our hope is that the land will serve as best practice and inspire other landowners to adopt principles applicable to their own spaces, including land managers, farmers and communities looking to diversify their business to adapt to our changing world. Lessons from the project could increase the knowledge and engagement of the Welsh public and policy makers with the low-cost, proven and replicable principles of ecosystem restoration, generating momentum and energy for the rewilding movement and the flourishing of nature across the country.
Tir Natur’s story so far...
Tir Natur (pronounced ‘Tier - Nat-ir’, meaning ‘Nature’s Land’ in Welsh) is the only charity in Wales solely focused on rewilding and is the country’s leading voice for the movement. Our mission is to rewild and regenerate Welsh landscapes, providing hope and momentum for wildlife to flourish alongside thriving local communities at a time of unprecedented biodiversity loss.
Showcasing the key role that grazers play in regenerating our landscapes, and therefore the important part that farming has to play, is an important part of our work, as is advocating for nature recovery and climate mitigation in Welsh policy and leading our Wales Rewilding Network; a space for new and existing landowners to share experiences and learn from each other (comprising over 800 acres between them).
Read our full opportunity here.
Where is the land?
We cannot reveal the location of the land we are looking to purchase until after an Exchange of Contracts takes place. With the help of generous supporters we hope this will happen in Spring 2025 and very much look forward to updating you then.
Thank you - diolch o galon
We would like to take this opportunity to thank you for any donation you can make towards this important work. Your contribution will make a significant difference to nature in Wales, as this project will not exist in isolation. It will inspire conservationists and farmers alike to adopt principles of rewilding and any funding will therefore have a ripple effect throughout Cymru|Wales.
*If the purchase falls through, we will use your donation to buy another parcel of land in line with our mission and values.
Artwork of our Vision illustration by Cardiff-based, Katherine Jones
Image Credits: Wild Horse (Jeroen Helmer), Beaver & White Park Cattle (Dr Sam Rose)
“Fel llysgennad Tir Natur, rwy' wedi fy nghyffroi’n fawr gan eu hymdrechion i brynu tir ac arddangos manteision ail-wylltio, nid yn unig i fywyd gwyllt a’r amgylchedd ffisegol, ond i ffermio, cymunedau Cymreig a diwylliant Cymru. Mae angen hyn ar natur.”
Iolo Williams - Llysgennad Tir Natur
Croeso i Tir Natur a diolch am ymweld â'n tudalen Crowdfunder..
*Os ydych am ddod yn Aelod Sefydlu Cymunedol ewch i'n gwefan*
Mae gan Tir Natur gyfle enfawr i sefydlu safle ail-wylltio mwyaf Cymru. Hwn fyddai'r prosiect adfer ecosystem mwyaf y wlad hefyd - dros 1000 erw. Bydd bridiau hynafol o anifeiliaid pori yn crwydro'n rhydd ac yn siapio’r dirwedd, gan ganiatáu i fywyd gwyllt ffynnu ochr yn ochr â chymunedau llewyrchus, wrth hysbysu ac ysbrydoli gwaith adfer pellach a arweinir gan natur ar adeg o golli bioamrywiaeth ddigynsail. Yn fwy na dim, byddai’n cynnig gobaith i natur.
Ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain – i ddatgloi’r cyfle trawsnewidiol hwn a gwireddu’r weledigaeth hon, mae angen eich cefnogaeth arnom.
Bydd yr arian a godir yn cyfrannu at y blaendal a'r costau cysylltiedig ar gyfer y tir. Bydd eich rhodd yn ein helpu i gyrraedd ein carreg filltir gyntaf o £370,000. Os gwelwch yn dda:
- Cyfrannwch yr hyn a allwch. Bydd pob £1 a roddwch, hyd at gyfanswm o £20,000, yn cael ei ddyblu diolch i ddau Aelod Sefydlu Cymunedol hael sydd am ein cefnogi ar y daith hon gydag arian cyfatebol. Bydd rhywfaint o roddion yn cael eu treblu, gan fod Aviva yn darparu rhywfaint o arian cyfatebol ychwanegol ar sail y cyntaf i'r felin, hyd at £250 pob person. Po gyntaf y byddwch yn gwneud eich rhodd, y mwyaf tebygol y byddwn yn derbyn y cymorth ychwanegol hwn.
- Rhannwch y dudalen hon gyda'ch teulu a'ch ffrindiau.
- Gofynnwch i'ch cyflogwr ein cefnogi.
- Dewch yn bartner corfforaethol drwy gysylltu drwy e-bostio [email protected]
- Dewch yn Aelod Sefydlu Cymunedol (gyda chyfraniad o £5000 neu £10,000+) drwy e-bostio [email protected].
- Dewch yn wirfoddolwr trwy lenwi'r ffurflen hon.
*Bydd arian cyfatebol Aviva yn cael ei ychwanegu at ein cyfanswm Crowdfunder. Bydd arian cyfatebol ein Haelodau Sylfaenol Cymunedol yn cael ei ddefnyddio unwaith y daw'r apêl i ben.
Pam fod angen y prosiect hwn ar Gymru?
Mae Cymru yn un o’r gwledydd sydd wedi disbyddu fwyaf o ran byd natur yn y byd. Er gwaethaf targedau uchelgeisiol gan y llywodraeth, mae’r ymateb yn dal i fod ymhell o’r hyn sydd ei angen i fynd i’r afael â graddfa a chyflymder y dirywiad byd natur gydag un o bob chwe rhywogaeth bellach mewn perygl o ddiflannu o Gymru. Yn ogystal â cholli cynefin, mae digwyddiadau tywydd anrhagweladwy a garw a achosir gan yr argyfwng hinsawdd yn fygythiad ychwanegol i’n bywyd gwyllt, tra’n gwneud bywyd yn galetach i’n cymunedau amaethyddol, sy’n chwarae rhan hanfodol mewn cynnal iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru, ac y mae eu mae bywoliaethau eisoes yn cael eu heffeithio gan gostau mewnbwn cynyddol ac anweddolrwydd y farchnad. Mae ailwylltio yn cynnig atebion i'r ddwy her hyn.
Mae ailwylltio yn cynnig gobaith.
Yn gryno, ailwylltio yw adfer gwe bywyd anhygoel natur, gan gynnwys cynefinoedd, prosesau naturiol a, lle bo’n briodol, rhywogaethau coll, nes y gall ofalu amdano’i hun – a ninnau – eto. Fodd bynnag, does dim enghreifftiau ar raddfa fawr o brosiectau o’r fath yng Nghymru. Mae diffyg cyfle i ddangos sut y gall y dulliau hyn fynd i’r afael â’r argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd sy’n gorgyffwrdd, i ysbrydoli, addysgu ac arddangos y buddion di-rif i bobl, economïau, diwylliant a chymunedau, o leihau llifogydd ac amsugno carbon deuocsid, i wella iechyd a lles.
Y Cyfle:
Mae potensial ein safle blaenllaw ar gyfer ail-wylltio ar raddfa fawr yn ddigyffelyb. Mae ganddi lawer o nodweddion naturiol gan gynnwys afonydd, mawnogydd a choed hynafol prin (llawer ohonynt mewn cyflwr gwael). Mae'r tir yn pontio gwarchodfeydd natur anghysbell presennol gan ddarparu coridorau bywyd gwyllt sy'n hanfodol i adfer a chadw bioamrywiaeth. Gallai ailwylltio wella iechyd afonydd lluosog sy'n rhedeg trwy'r tir, tra'n lliniaru'r llifogydd a ddioddefir yn gynyddol gan gymunedau a thirfeddianwyr i lawr yr afon.
"Pan es i i ymweld â'r tir hwn teimlais ias o gyfle a gobaith. Cyfle i wneud rhywbeth newydd, rhywbeth gwahanol. Byddai hyn yn wahanol i unrhyw beth y mae Cymru wedi'i weld o'r blaen. Lle i enaid gael llonydd." Aelod o Tir Natur
Defnyddio Porwyr fel Penseiri Ecosystemau
Wrth wraidd ailwylltio mae ein system bori gwyllt, gyda dwyseddau naturiol o fridiau hynafol, diwylliannol o borwyr fel Gwartheg Duon Cymreig neu Wartheg Parc Gwynion a Merlod y Carneddau yn gweithredu fel dirprwy ecolegol i’w hynafiaid gwyllt, yr Auroch a’r Tarpan.
Bydd moch yr Oes Haearn yn cymryd rôl y Baedd Gwyllt ac yn dal ysbryd Twrch Trwyth chwedlonol y Mabinogi ym mryniau Cymru. Trwy eu hymddygiad chwilota, byddant yn lleihau grym y rhedyn ungoes, yn troi'r ddaear yn ysgafn ac yn amlygu hadau i'r golau, gan roi hwb i adfywiad naturiol.
Bydd yr anifeiliaid hyn yn crwydro’n rhydd ar draws y dirwedd, gan wasgaru hadau trwy eu perfedd, eu carnau a’u ffwr, gan gynyddu bioamrywiaeth. Gyda'i gilydd, bydd y 'penseiri ecosystem' hyn yn ysgogi adferiad cynefinoedd cymhleth a deinamig sy'n symud ac yn newid dros amser. Bydd natur yn ein harwain ni.
Trwy eu pori, eu ymdrybaeddu, eu tail a’u sathru, mae eu haflonyddu ar y dirwedd yn creu cilfachau a microgynefinoedd sydd eu hangen ar rywogaethau eraill i ffynnu. Fel y dangosir gan lwyddiant prosiectau ail-wylltio fel Knepp yng Ngorllewin Sussex, byddai hyn yn ffordd effeithiol (o ran cost ac yn ecolegol) o adfer natur, heb unrhyw angen am orbenion mawr na miloedd o oriau gwirfoddol. Dyma broject cost isel/effaith uchel ac mae’n fodel y gellir ei ehangu i ymateb i’r argyfwng y mae byd natur yn ei wynebu.
Ffermio
Mae hyn hefyd yn gosod llwyfan ar gyfer hwsmonaeth anifeiliaid ac, felly, byddwn yn dangos y rôl allweddol y gall ffermio ei chwarae wrth adfer ecosystemau. Mewn natur, byddai niferoedd llysysyddion wedi cael eu cadw dan reolaeth gan ysglyfaethwyr mawr, ond yn eu habsenoldeb, mae'r ffermwr/rheolwr stoc yn cadw cydbwysedd naturiol i atal gorbori.
Rydym wedi dewis safle lle bydd y gwerthwr yn cadw ei fferm (gan gynnwys glaswelltir wedi'i wella, rhos, mynydd) gyda Tir Natur yn gweithio ar y tir ymylol. Trwy osod y prosiect hwn yn yr ucheldiroedd rydym hefyd yn anelu at gael effaith gadarnhaol ar ein cymdogion. Wrth i ni adfer mawn (gweler isod) bydd yn gweithredu fel sbwng i leihau llifogydd i lawr yr afon mewn cymunedau a thir fferm ar adeg o dywydd cynyddol anrhagweladwy.
Darllenwch ein blog ar Ail-wylltio a Ffermio:
https://www.rwtwales.org/blog/tir-natur/rewilding-farming-emergence-eco-farm-system
Lleihau effeithiau Newid Hinsawdd
Yn ogystal â rhoi bywyd newydd i'r dirwedd, bydd effaith cael porwyr ar y tir yn cynnwys ail-wlychu 250 erw o fawn sych sy'n pydru, gan ryddhau carbon deuocsid i'r atmosffer ar hyn o bryd. Bydd y mawn, wedi’i adfer, yn amsugno carbon deuocsid o’r atmosffer, ac ochr yn ochr â choed a phrysgwydd brodorol, bydd yn gweithredu fel sbwng yn amsugno dŵr a fyddai fel arall yn llifo i’r afonydd. Bydd hyn yn lleihau'r perygl o lifogydd i lawr yr afon ac yn sicrhau bod y tir yn gallu gwrthsefyll sychder. Gan weithio gyda’n cymdogion, byddwn yn ceisio ailgyflwyno Afancod i’r systemau afonydd, a bydd eu hargaeau yn arafu llif yr afonydd ymhellach, gan gadw tai a thir fferm yn sych.
Cymuned a Diogelu Diwylliant Cymru
Byddai masnachwyr lleol yn cael eu cyflogi i greu a chyflawni’r prosiect, a byddwn yn gweithio gyda chymunedau i sicrhau bod diwylliant a threftadaeth ieithyddol y wlad - y Gymraeg - yn cael eu dathlu. Gyda llwybrau cyhoeddus yn cael eu cynnal ac ymwelwyr yn cael eu hannog, bydd pobl yn cael eu hailgysylltu â’u gwreiddiau ac â natur wyllt, gan roi ymdeimlad o berchnogaeth a pherthyn, a chynnig cyfleoedd ar gyfer iechyd a lles.
Ysbrydoli Gweithredu
Gyda phori naturiol yn ganolog i’r prosiect, ein gobaith yw y bydd y tir yn gweithredu fel arfer gorau ac yn ysbrydoli tirfeddianwyr eraill i fabwysiadu egwyddorion sy’n berthnasol i’w gofodau eu hunain, gan gynnwys rheolwyr tir, ffermwyr a chymunedau sydd am arallgyfeirio eu busnes i addasu i newidiadau ein byd. Gallai gwersi o’r prosiect gynyddu gwybodaeth ac ymgysylltiad y cyhoedd yng Nghymru a llunwyr polisi ag egwyddorion cost isel, profedig ac ailadroddadwy adfer ecosystemau, gan greu momentwm ac egni ar gyfer y mudiad ail-wylltio a ffyniant natur ledled y wlad.
Stori Tir Natur hyd yn hyn...
Tir Natur yw’r unig elusen yng Nghymru sy’n canolbwyntio’n llwyr ar ailwylltio a hi yw prif lais y wlad ar gyfer y mudiad. Ein cenhadaeth yw ail-wylltio ac adfywio tirweddau Cymru, gan roi gobaith a momentwm i fywyd gwyllt ffynnu ochr yn ochr â chymunedau lleol llewyrchus mewn cyfnod o golli bioamrywiaeth ddigynsail.
Mae arddangos y rôl allweddol y mae porwyr yn ei chwarae wrth adfywio ein tirweddau, a’r rhan bwysig sydd gan ffermio i’w chwarae, yn rhan bwysig o’n gwaith, yn ogystal â chefnogi adfer natur a lliniaru hinsawdd ym mholisi Cymru ac arwain ein Rhwydwaith Ailwylltio Cymru; gofod i dirfeddianwyr newydd a phresennol rannu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd (yn cynnwys dros 800 erw rhyngddynt).
Darllenwch ein cyfle llawn yma.
Ble mae'r tir?
Ni allwn ddatgelu lleoliad y tir yr ydym yn bwriadu ei brynu tan ar ôl i Gyfnewid Contractau ddigwydd. Gyda chymorth cefnogwyr hael rydym yn gobeithio y bydd hyn yn digwydd yng ngwanwyn 2025 ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich diweddaru bryd hynny.
Diolch o galon
Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am unrhyw gyfraniad y gallwch ei wneud tuag at y gwaith pwysig hwn. Bydd eich cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i natur yng Nghymru, gan na fydd y prosiect hwn yn bodoli ar ei ben ei hun. Bydd yn ysbrydoli cadwraethwyr a ffermwyr fel ei gilydd i fabwysiadu egwyddorion ail-wylltio ac felly bydd unrhyw rodd ariannol yn cael effaith gynyddol ledled Cymru|Wales.
*Os bydd y pryniant yn methu, byddwn yn defnyddio eich rhodd i brynu darn arall o dir yn unol â'n cenhadaeth a'n gwerthoedd.